or Sign up

Cronfa Llandegfedd

Uploaded by nicdafis on Jun 28, 2022
Region: United Kingdom

Route type: walking
Distance: 8.95km, 5.56 miles.   (2)

About trip

Llwybr cylchol yr holl ffordd o amgylch Llyn Llandegfedd. Mae’r llwybr yn cwmpasu amrywiaeth eang o dirweddau sy’n cynnwys coetir cymysg, traciau mwdlyd, glaswelltir a dolydd a amddiffynnir, bryniau, argloddiau serth, grisiau a nentydd. Argymhellir gwisgo esgidiau cadarn sy’n cynnal y pigyrnau.

1

Gan ddechrau yn y Ganolfan Ymwelwyr, dilynwch y llwybr draw tua'r Ganolfan Chwaraeon Dŵr. Fe welwch chi arwydd sy'n dangos y llwybrau cerdded. Ewch trwy'r gât a throwch tua'r chwith gan ddilyn gwaelod y cae nes cyrraedd gât arall sy'n mynd â chi i'r goedwig.

2

Dilynwch y llwybr wedi ei farcio trwy'r goedwig nes cyrraedd y gât sy'n arwain i'r ddôl. Parhewch trwy'r ddôl. Mae hi'n bwysig cadw draw o'r lân am ei bod yn lle nythu cyffredin i'r Cwtiaid Torchog ac yn le gorffwys i lawer o adar. Dim ond pysgotwyr a ganiateir ar y lan er diogelwch byd natur ac ymwelwyr. Gan gadw at ochr dde'r llwybr glaswellt, cerddwch heibio i'r orsaf bwmpio ac i mewn i faes parcio'r gogledd. Mae hwn yn lle delfrydol i aros am bicnic. Cymrwch hoe hanner ffordd ac mae toiledau yma os oes angen hefyd!

3

O faes parcio'r gogledd a'r ardal bicnic, dilynwch arwydd y llwybr trwy'r fynedfa/allanfa a throwch i'r chwith i fyny'r llwybr gan ddilyn yr arwydd. Mae hi'n bwysig nodi bod y rhan yma o'r llwybr cyhoeddus ym mherchnogaeth a dan ofal Cyngor Sir Tor-faen, felly parchwch y llwybr a dilynwch y Cod Cefn Gwlad bob amser.

4

Dilynwch y llwybr heibio i'r tŷ a chadwch i ochr dde'r cae sydd wedi ei farcio â physt pren. Ar ôl cyrraedd pen y cae, trowch i fwynhau'r olygfa fendigedig o'r pen gogleddol. Fe gyrhaeddwch chi gât sy'n mynd i mewn i'r goedwig. Cymrwch ofal am fod da byw yn yr ardal hon, a chadwch eich cŵn ar dennnyn.

5

Gan ddilyn y marcwyr, croeswch y ffordd cyn dilyn llwybr trwy'r goedwig a chroesi'r ffordd am yr eildro. Nawr ewch dilynwch y lôn gan fynd heibio i'r fferm a'r adeiladau sy'n arwain at lwybr arall wedi ei farcio.

6

Dilynwch y marcwyr ar hyd llwybr y goedwig, trwy'r cae ac yn ôl ar hyd llwybr arall trwy'r goedwig. Dewch chi allan ar ben Heol Sluvad, ger Gweithfeydd Trin Dŵr Cymru.

7

Trowch i'r chwith a dilynwch y ffordd am tua 100 metr cyn croesi (gan bwyll yn y fan yma). Dilynwch y grisiau i'r llwybr olaf trwy'r goedwig, a fydd yn mynd â chi lawr yn y pen-draw i ddod allan ar waelod wal yr argae sy'n arwain nôl at y Ganolfan Ymwelwyr.

Search routes